
Opera newydd i blant a theuluoedd yn Neuadd Llanegryn, 6.30p.m., nos Fercher, Medi 7fed
29 Awst 2022CROESO I WEFAN CÔR BRO MEIRION
28 Chwefror 2012Gobeithio y bydd cynnwys y wefan o ddiddordeb ac o ddefnydd i chi.
Eisteddfod Talaith a Chadair Powys 2019
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ennill y gystadleuaeth i gorau yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys a gynhaliwyd ar safle Ysgol Dyffryn Banw dros y ddeuddydd diwethaf. Derbyniodd Iwan Wyn Parry, arweinydd y Côr, Gwpan Amaethwyr Corwen ynghyd â siec am £500. Diolch iddo ef a Huw Davies, cyfeilydd y Côr am eu gwaith clodwiw. Côr Meibion Machynlleth ddaeth yn ail, gyda Meibion Marchan o Ddyffryn Clwyd a Chôr Meibion Penybontfawr yn gydradd drydydd.
Cyngerdd Doncaster 29/09/18
Ewch i’r dudalen Newyddion i ddarllen hanes ein cyngerdd yn Doncaster
Eisteddfod Caerdydd a’r Fro 2018
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ddod yn ail allan o saith o gorau da) yn y gystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru a gynhaliwyd brynhawn dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod. Côr Caerdydd ddaeth i’r brig – llongyfarchiadau iddynt hwythau ar eu llwyddiant.
Diolch i Iwan a Huw am ei gwaith caled, eu hamynedd a’u dyfalbarhad yn y misoedd yn arwain at yr eisteddod.
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ennil y wobr gyntaf yn Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn y Venue, Llandudo, dydd Sul, Tachwedd 5ed, 2017
Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn well
HANES Y CÔR
Yn 2009 cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala a daeth criw da o gantorion o Sir Feirionnydd a thu hwnt ynghyd ar gyfer Côr yr Eisteddfod. Wedi i’r Eisteddfod fynd heibio `roedd nifer o’r cantorion yn teimlo chwithdod mawr bob nos Wener gan i’r ymarferion, a oedd mor hwyliog a phleserus, ddod i ben! Bu’r chwithdod hynny yn sbardun i nifer o aelodau’r côr ddod at ei gilydd ym misoedd yr hydref 2009 i drafod y posibilrwydd o ffurfio côr cymysg newydd yn Sir Feirionnydd. `Roedd yr ymateb i’r syniad yn galonogol iawn ac erbyn dechrau 2010 `roedd yr unawdydd adnabyddus, Iwan Wyn Parry, wedi ymateb yn gadarnhaol i’r gwahoddiad i arwain y côr arfaethedig. Y darn olaf yn y jigso oedd sicrhau gwasanaeth cyfeilydd o safon ac fe syrthiodd y darn hwnnw i’w le pan gytunodd Huw Davies o Lanerfyl i ymgymryd â’r gwaith. Cynhaliwyd yr ymarfer cyntaf ym mis Ionawr 2010 a byth ers hynny y mae’r Côr wedi mynd o nerth i nerth.
Rydym wedi cystadlu ym mhob Eisteddfod Genedlaethol ers 2010 ac fe enillodd y Côr y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth “Cyflwyno Rhaglen o Adloniant” yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2016 a gynhaliwyd yn y Fenni.
Dyma ddolen i uchafbwyntiau’r gystadleuaeth
Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016
AMCANION Y CÔR
- Hyrwyddo canu corawl o safon
- Hybu a chynorthwyo’r aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau corawl
- Creu gweithgarwch sy’n hybu doniau amrywiol o fewn y Côr
- Cefnogi gweithgareddau elusennol
Ond yn bwysicach na dim, i FWYNHAU!!