CROESO I WEFAN CÔR BRO MEIRION

28 Chwefror 2012

Gobeithio y bydd cynnwys y wefan o ddiddordeb ac o ddefnydd i chi.

Llongyfarchiadau i’r Côr ar ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy 2015 (a gynhaliwyd yn Llanrwst) a hefyd ar ennill y wobr gyntaf yn Ngŵyl Fawr Aberteifi 2015. Cliciwch ar y ddolen isod i wrando ar y Côr yn perfformio yn Aberteifi

https://www.facebook.com/C%C3%B4r-Bro-Meirion-265223436886734/?fref=ts

HANES Y CÔR

Yn 2009 cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala a daeth criw da o gantorion o Sir Feirionnydd a thu hwnt ynghyd ar gyfer Côr yr Eisteddfod. Wedi i’r Eisteddfod fynd heibio `roedd nifer o’r cantorion yn teimlo chwithdod mawr bob nos Wener gan i’r ymarferion, a oedd mor hwyliog a phleserus, ddod i ben! Bu’r chwithdod hynny yn sbardun i nifer o aelodau’r côr ddod at ei gilydd ym misoedd yr hydref 2009 i drafod y posibilrwydd o ffurfio côr cymysg newydd yn Sir Feirionnydd. `Roedd yr ymateb i’r syniad yn galonogol iawn ac erbyn dechrau 2010 `roedd yr unawdydd adnabyddus, Iwan Wyn Parry, wedi ymateb yn gadarnhaol i’r gwahoddiad i arwain y côr arfaethedig. Y darn olaf yn y jigso oedd sicrhau gwasanaeth cyfeilydd o safon ac fe syrthiodd y darn hwnnw i’w le pan gytunodd Huw Davies o Lanerfyl i ymgymryd â’r gwaith. Cynhaliwyd yr ymarfer cyntaf ym mis Ionawr 2010 a byth ers hynny y mae’r Côr wedi mynd o nerth i nerth.

Bu’r Côr yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam gan ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth i gorau cymysg dros 45 o aelodau. Cliciwch ar y ddolen isod i weld rhan o’n perfformiad:

Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 Corau Cymysg dros 45 aelod

Y mae’r Côr wedi cystadlu ym mhob Eisteddfod Genedlaethol ers ei sefydlu.

AMCANION

  • Hyrwyddo canu corawl o safon
  • Hybu a chynorthwyo’r aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau corawl
  • Creu gweithgarwch sy’n hybu doniau amrywiol o fewn y Côr
  • Cefnogi gweithgareddau elusennol

Ond yn bwysicach na dim, i FWYNHAU!!

YMWELYDD RHIF
web page stats


Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn.