Cyngerdd Doncaster 29/09/18
Dydd Sadwrn, Medi 29ain, teithiodd Côr Bro Meirion i Doncaster, yn ne Swydd Efrog, i gynnal cyngerdd gyda Cherddorfa Hallgate. Cynhaliwyd y cynerdd yng Ngaheol y Bedyddwyr, Chequers Street yn Doncaster. Y ddolen gyswllt rhwng y Côr a Cherddorfa Hallgate oedd Mr Carey Williams, Frongoch, arweinydd y gerddorfa. Hwyrach y cofiwch y bu Mr Williams yn dysgu cerddoriaeth i ddisgyblion Ysgol Ganllwyd am flynyddoedd lawer.
Roedd y profiad yn un arbennig i aelodau’r Côr gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddynt gael canu i gyfeiliant cerddorfa. Roedd rhaglen y noson yn un heriol – canwyd nifer o ganeuon o repertoire arferol y côr i gyfeiliant piano ac fe ganwyd chwech o ganeuon, gan gynnwys darnau adnabyddus gan Mozart, Handel, Puccini a Verdi, i gyfeiliant y gerddorfa. Cafwyd diweddglo gogoneddus i’r noson gyda’r Côr a’r gerddorfa yn uno i berfformio’r Orymdaith Fawreddog allan o Aida. Roedd dysgu’r darn hwnnw mewn tair wythnos wedi bod yn dipyn o sialens i’r Côr a thestun boddhad a chlod i arweinydd y Côr (a’r Gerddorfa ar yr un pryd) Mr Iwan Wyn Parry, oedd y ffaith fod y datganiad yn un graenus a llwyddiannus iawn, gyda’r gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo ar ddiwedd y noson. Diolch i Iwan a Huw Davies, cyfeilydd y Côr, am eu gwaith clodwiw.
EIN CYNGERDD NESAF
CYNGERDD YN EGLWYS Y SANTES FAIR, LLANFAIR CAEREINION, MAI 5ed
Bu’r Côr yn cynnal cyngerdd yn Llanfair Caereinion nos Sadwrn, Mai 5ed. Roedd yr eglwys hynafol yn llawn at yr ymylon ar gyfer yr achlysur a chafwyd noson gwerth chweil, gyda’r Côr a’r gynulleidfa yn mwynhau’r canu, yr awyrgylch a’r acwsteg wych yn yr adeilad. Wedi’r cyngerdd derbyniwyd nifer helaeth o negeseuon cadarnhaol e.e. un gan ŵr o’r enw Tony Gillam.
We went to your concert at St Mary’s Church in Llanfair Caereinion, we thoroughly enjoyed the event and wished I had taken some decent recording equipment, it was so good, please let us know when you will be playing again, we don’t speak Welsh, but we enjoyed it.
CEFNOGI MIND
Daeth Jasmine French o elsusen MIND Gwynedd a Môn i Dŷ Siamas i dderbyn siec am £525 tuag at yr elusen gan Gôr Bro Meirion. Deilliodd yr arian o’r Cyngerdd Nadolig a gynhaliwyd gan y Côr yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn, ym mis Rhagfyr, 2017. Aeth swm cyffelyb tuag at Gronfa Adfer To’r eglwys.Yn y llun cyntaf gweler Linda Jones, aelod o’r Côr a threfnydd y cyngerdd, Jasmine French yn cynrychioli MIND ac Eleri Wyn Williams, ysgrifennydd gweithgar y Côr. Yn yr ail lun y mae John Cadwaladr, trysorydd y Côr, wedi ymuno â Linda ac Eleri.
Jasmine French from the MIND charity (Gwynedd and Anglesey branch) came to Tŷ Siamas to receive a cheque for £525 towards the charity from Côr Bro Meirion. The money stemmed from the Christmas Concert held by the Choir at St Cadfan’s Church, Tywyn, in December, 2017. A similar amount went towards the Church’s Roof Restoration Fund. In the first photo is Linda Jones, a member of the Choir and organizer of the concert, Jasmine French representing MIND and Eleri Wyn Williams, the secretary of the Choir. In the second photo, John Cadwaladr, the treasurer of the Choir, has joined Linda and Eleri.
CYNGERDD “HEDDWCH I’R BYD” – EGLWYS CADFAN SANT TYWYN, NADOLIG 2017
Nos Wener, Rhagfyr 15fed bu’r Côr, a fu’n fuddugol yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn ddiweddar, yn cynnal Cyngerdd Nadolig dan y teitl “Heddwch i’r Byd” yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn. Roedd yr eglwys yn llawn ar gyfer yr achlysur, gyda’r elw o’r noson yn mynd tuag at Gronfa Adfer To’r Eglwys a’r elusen iechyd meddwl, MIND. Roedd oddeutu deunaw cân yn rhaglen y Côr, yn gymysgedd o hen ffefrynnau megis Dawel Nos ac O Holy Night, a chaneuon gan gyfansoddwyr cyfoes megis John Rutter a Robat Arwyn. Yn ogystal, mwynhaodd y gynulleidfa unawdau safonol gan unawdwyr o rengoedd y Côr. Roedd cymeradwyaeth y gynulleidfa ar ddiwedd y noson yn arwydd pendant o’u mwynhad a’u gwerthfawrogiad.
…………………………………………………………………………………………………………………………….
Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ddod yn 1af yn y gystadleuaeth i gorau cymysg yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn y Venue, Llandudno, dydd Sul, Tachwedd 5ed.
Iwan Wyn Parry
Y mae arwr ym Meirion – arweinydd
Gwerinol gantorion;
Mynnwn ni, yn gwmni llon
Iti roi euraid faton.
Tecwyn Owen, Dolgellau
Cyngerdd Llanbrynmair
Nos Sadwrn, Hydref 28ain, daeth cynulleidfa dda ynghyd yn Neuadd Bentref Llanbrynmair ar gyfer cyngerdd gan y Côr. Canwyd oddeutu pymtheg cân, yn amrywio o ganeuon o gyfnod y Baroque i ganeuon cyfoes gan gyfansoddwyr o Gymru, megis Robat Arwyn ac Eric Jones. Yn ogystal, cafwyd unawdau a deuawdau safonal gan rai o aelodau’r Côr, nifer ohonynt yn enillwyr Cenedlaethol. Roedd gwerthfawrogiad a mwynhad y gynulleidfa o’r amrywiaeth cerddorol a gafwyd ar y noson, yn amlwg. Hoffai’r Côr ddiolch am y gwahoddiad i berfformio yn Llanbrynmair, am y croeso ac am y lluniaeth ardderchog a gafwyd ar diwedd y noson.
Lluniau diweddar – cliciwch arnynt i’w gweld yn fwy
Eisteddfod y Groglith Dinas Mawddwy
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth y Côr yn Eisteddfod y Groglith, Dinas Mawddwy nos Sadwrn, Ebrill 15fed . Y gynulleidfa wedi mwynhau’r perfformiad, rwy’n credu – gobeithio fod y bos hefyd!!
Diolch i Mr Carwyn Evans am ddod â chôr merched Ysgol y Gader i gystadlu yn ein herbyn ac i’n diddanu,
Cyfarfod Blynyddol
7 o’r gloch yr hwyr, Neuadd Rhydymain, Nos Wener, Mawrth 31ain, 2017
Llwyddiant Eisteddfodol
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ddod yn gyntaf (allan o dri) yn y gystadleuaeth i gorau neu bartion yn Eisteddfod Llawrplwy` a Phenstryd Trawsfynydd a gynhaliwyd nos Sadwrn, Chwefror 4ydd.
Swper Blwyddyn Newydd y Côr
Nos Sadwrn diwethaf, Ionawr 28ain, cynhaliwyd cinio Blwyddyn Newydd y Côr yn nhafarn Y Llew Coch yn Ninas Mawddwy. Cafwyd bwyd, gwasanaeth a chroeso ardderchog gan Beryl a’i staff – diolch iddynt am eu gwaith.
Wedi gwledda cafwyd talwrn digon ysgafn a hwyliog ei naws. Roedd yr aelodau wedi cael ychydig oriau i orffen limrig – rhoddwyd dewis o bedair llinell agoriadol iddynt megis –
Dau denor reit uchel eu cloch
Soprano â’i llais braidd yn fain
Rhyw alto ansicr ei thraw
Y baswyr rhyfeddol iawn eu sain
Dyma rhai o’r ymdrechion a ddaeth i’r dosbarth cyntaf.
Y baswyr rhyfeddol eu sain
Gafodd unwaith eto “Y lein”,
Un nodyn, `run nodyn,
Un nodyn, `run nodyn,
Bochau tîn tynn bois, byddwch ffein!
Dau denor reit uchel eu cloch
Yn canu mewn leotard coch,
“Mae hwn yn go dynn,
`Nenwedig fan hyn”,
Mae’r cortyn yn cau am ei foch!
Rhyw alto ansicr ei thraw
Ddywedodd yn smala – “sỳm draw”
Wel gofyn yn syn
A wnaeth Bethan Lyn,
“Pwy `di hon, un bowld ar y naw!”
Soprano â’i llais braidd yn fain,
Sy’n deall sol-ffa fel ei nain,
Er gwaethai’i hymarfer
A’i dyfal ddweud pader
Mae’n ‘slyrio’ fel ŵy ar blât saim!
Dau denor reit uchel eu cloch
Yn canu a’u hwynebau yn goch,
Mi aeth yn reit dda
Wrth ddilyn sol-ffa
Hen nodiant, o diar, traed moch!
Soprano â’i llais braidd yn fain,
Dim bwys am gyweirnod na sain,
Un noson rhoddodd sgrech,
Gollyngodd dwy rech
Nes chwythu `rhen Huw i Rydmain!
Y baswyr rhyfeddol eu sain,
Fel rhosod yng nghanol coed drain,
Er weithiau yn oedi
I’r lleill gael dal fyny,
Cerrig sylfaen y côr ydyw rhain!
Y baswyr rhyfeddol eu sain,
Rhai pwysig ofnadwy yw rhain,
Mae arweinydd y côr
Bob tro wrth ei fodd
Eu clywed nhw’n canu’n Rhydmain.
Roedd y Meuryn yn dibynnu i raddau helaeth ar ymateb y gynulleidfa i’r limrigau wrth ddod i farn ynglŷn â threfn teilyngdod. Yr un a berodd y mwyaf o rochian chwerthin oedd yr un “dwy rech” ac felly honno aeth â hi! Y bardd buddugol oedd un o’r altos (ond nid yr un ansicr ei thraw, rwy’n prysuro i ddweud), sef Gwyneth Ffrancon Lewis.
Ffair Aeaf Llanelwedd – “Carolau o’r Cylch”
Nos Sul, Tachwedd 27ain, teithiodd y Côr yr holl ffordd i faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i gymryd rhan mewn Oedfa “Carolau o’r Cylch”. Daeth cynulleidfa o thua dau gant o bobl, a oedd eisoes wedi cyrraedd y maes, i’r oedfa ac er mor oer yr hin roedd yr awyrgylch yn Nadoligaidd ac yn gynnes braf yn y sied arddangos. Canwyd pump o garolau cynulleidfaol, yn gymysgedd o ffefrynnau Cymraeg a Saesneg, ac fe ganodd y Côr dair cân, sef “A gogoniant yr Iôr” allan o’r Meseia, “Mae’r sêr yn canu”, allan o “Atgof o’r Sêr” gan Robat Arwyn a “Gŵyl y Baban” gan Caryl Parry Jones a Myfyr Isaac.
Llwyddiant yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ddod yn 3ydd allan o ddeg côr yn y gystadleuaeth i Gorau Cymysg yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno prynhawn dydd Sul, Tachwedd 6ed.
Dyma’r canlyniad yn llawn:
1. Côr Prifysgol Nottingham Trent 88
2. Friday Voices (Swydd Stafford) 87
3. Côr Bro Meirion 86
4. Côr Alaw 85 (Perfformiad graenus a swynol – da iawn, yn wir)
5. Quindici (Y Drenewydd) 83
6. Côr Ger y Ffîn 82
7. Adlais 81
8. Cantemus At Calday (Cilgwri) 79
9. Aloud in The Valley (Rossendale) 78
10. Côr Magh Ealla (Iwerddon)
Diolch i Iwan a Huw am eu holl waith caled.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2016 – Y Fenni
Dyma yn wir oedd yr uchafbwynt hyd yma yn hanes y Côr. Cafwyd buddugoliaeth wych yn y gystadleuaeth “Cyflwyno Rhaglen o Adloniant” a gynhaliwyd ar brynhawn Sul yr Eisteddfod. Roedd oddeutu wyth o gorau yn y gystadleuaeth, nifer ohonynt yn gorau adnabyddus a safonol iawn. Roedd ennill y gwpan yn brofiad gwefreiddiol i holl aelodau’r Côr ac yn enwedig felly i Iwan Parry, ein harweinydd a Huw Davies, ein cyfeilydd, ac yn wobr haeddiannol am eu holl waith caled gyda’r Côr.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld Iwan yn cael ei gyfweld gan Heledd Cynwal gefn llwyfan
Gŵyl Goral Cheltenham
Dydd Sadwrn, Mai 14eg bu’r Côr yn cystadlu yng Ngŵyl Gorawl Cheltenham am y tro cyntaf. Roedd ein cystadleuaeth gyntaf am 9.30 y bore a’r olaf, sef ein pumed, am oddeutu 7.45 yr hwyr! Credaf fod y Côr wedi canu yn dda – un wobr oedd yna ym mhob cystadleuaeth ac ni chawsom yr un wobr gyntaf. Roedd `na gorau da iawn yno – Côr Ardwyn o Gaerdydd yn arbennig o safonol, felly hefyd Côr A440 o Reading a Chôr y Gleision, eto o Gaerdydd (i enwi dim ond tri!) Roedd yr awyrgylch yn braf yno a phob côr yn werthfawrogol o ymdrechion ei gilydd. Roedd y lleoliad, sef Neuadd y Dref Cheltenham yn wych o safbwynt pensaernïaeth ac acwsteg a’r profiad drwyddi draw yn un buddiol a phleserus iawn.Diolch i Iwan a Huw am eu gwaith canmoladwy gydol y dydd (ac i Delyth am ddarparu’r lluniau isod).
Cyngerdd Dolywern, ger Glyn Ceiriog
Diolch i drigolion Glyn Ceiriog, Pontfadog a Dolywern am y croeso i Gôr Bro Meirion neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 11eg). Cafwyd cyngerdd gwerth chweil – y Côr a’ r gynulleidfa wedi mwynhau’ n arw. Diolch am y lluniaeth ardderchog ar ddiwedd y noson hefyd.
Llwyddiant yng Nghŵyl Fawr Aberteifi
Nos Sadwrn diwethaf (Gorffennaf 4ydd) llwyddodd Côr Bro Meirion i ennill y wobr gyntaf, sef £500, yn y gystadleuaeth i gorau cymysg yng Ngŵyl Fawr Aberteifi . Dan arweiniad Iwan Wyn Parry a chyda Huw Davies yn cyfeilio, canodd y Côr ddwy gân gyferbyniol, sef “Draw Ar lan Afon Tebro” gan Palestrina a “Rhosyn Duw” gan Grace Williams. Ychydig wythnosau yn ôl enillodd y Côr y wobr gyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy a gynhaliwyd yn Llanrwst. Er mai yn Nolgellau y mae’r Côr yn ymarfer bob nos Wener, daw’r aelodau, oddeutu chwe deg a phump ohonom, o wahanol rannau o Feirionnydd – o Ddysynni, Ardudwy, Penllyn, Mawddwy ac ardal Dolgellau. Y mae’r Côr yn brysur y dyddiau hyn yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ym Meifod ar ddechrau mis Awst.
Cyngerdd ym Mhencaenewydd
Bu’r Côr yn cynnal cyngerdd yng nghapel Pencaenewydd nos Sul, Mehefin 29an. Daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i wrando ar y Côr yn canu oddeutu pymtheg o ganeuon, yn amrywio o fadrigalau o Oes y Dadeni i ganeuon gan gyfansoddwyr clasurol a chaneuon o sioeau cerdd cyfoes. Cafwyd deuawdau gan Eleri a Hywel, Bethan Lynne a Dylan ac unawdau gan Aron Wyn Parry ac Iwan Wyn Parry. Diolch i gyfeillion Pencaenewydd am y gwahoddiad a’r croeso ac yn enwedig am y lluniaeth ar ddiwedd y noson.
Diolch i Gwerfyl Davies am ei sylw caredig – “Chwip o gyngerdd yn Pencaenewydd heno – diolch o galon”
Ennill y Wobr 1af!
Llongyfarchiadau i’r Côr ar ddod yn gyntaf allan o bedwar côr yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Conwy a gynhaliwyd yn Llanrwst dydd Sadwrn, Mehefin 2ofed.
Cyngerdd yn y Tabernacl,Machynlleth, nos Sadwrn, Mehefin 6ed
Nos Sadwrn, Mehefin 6ed, cynhaliwyd y cyngerdd olaf mewn cyfres i ddathlu pen-blwydd Canolfan Y Tabernacl, Machynlleth yn 30 oed. Yr artistiaid gwadd oedd Céline Forrest (soprano), Iwan Wyn Parry (bariton) a Chôr Bro Meirion. Canodd y ddau unawdydd nifer o ganeuon safonol a heriol gan gyfansoddwyr Cymreig ac o fyd yr opera a mawr oedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa luosog o’u perfformiadau ac o gyfeilio celfydd Eirian Owen. Y mae gan Céline Forrest lais a dawn aeddfed iawn ac mae’n gantores hynod addawol – yn wir, hi fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd sydd yn dechrau dydd Sadwrn, Mehefin 13eg. Canodd y Côr oddeutu deuddeg cân, yn amrywio o waith Palestrina o gyfnod y Dadeni, i ganeuon o sioeau cerdd cyfoes. Uchafbwynt y noson i lawer un a oedd yn bresennol oedd y ddeuawd wych “All I ask of you” allan o “Phantom of the Opera”, gyda Céline ac Iwan yn swyno’r gynulleidfa gyda’u dehongliad hyfryd.
Rhaglen Nadolig “Cefn Gwlad” 2014
Nos Lun, Rhagfyr 22ain bydd rhaglen “Cefn Gwlad”, awr o hyd, yn rhoi sylw i hynt a helynt Côr Bro Meirion, gan ddilyn nifer o’r aelodau, rhai wrth eu gwaith ac eraill yn hamddena. Bu Dai Jones a’r tîm cynhyrchu yn Neuadd Bentref Rhydymain nos Wener, Tachwedd 28ain yn ffilmio un o gyngherddau’r Côr. Roedd y cyngerdd yn un arbennig o lwyddiannus gyda’r neuadd yn llawn hyd at yr ymylon. Cofiwch wylio!!
Perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm, Tachwedd 2014
Dydd Sul, Tachwedd 2il bu’r Côr yn perfformio ar Lwyfan Glanfa yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm. Roedd y lleoliad yn un braf iawn a daeth cynulleidfa dda ynghyd i wrando ar y Côr. Roedd llawer yn eistedd ar y cadeiriau esmwyth sydd o flaen y llwyfan, eraill ar grwydr o amgylch y Ganolfan yn sefyll yn eu hunfan i wrando. Bu’r Côr wrthi am tua thri chwarter awr, gan ganu oddeutu deg o ganeuon amrywiol, rhai gan gyfansoddwyr mawr y gorffennol megis Handel a Cherubini a rhai gan gyfansoddwyr cyfoes megis Robert Arwyn ac Eric Whitacre. Cafwyd cymeradwyaeth wresog gan y gynulleidfa ar ddiwedd y perfformiad a phob aelod o’r Côr wedi mwynhau y profiad yn fawr.
Unigryw – Llyfr Cerddi’r Beirdd
Cyflwynodd y diweddar Eirlys Phillips, Machynlleth y llyfr llofnodion unigryw yma i Gôr Bro Meirion i’w werthu er budd ‘Cronfa Idris’, sef Idris Pugh, un o aelodau’r côr a gafodd ei daro’n ddifrifol wael mewn cyngerdd.
Mae’n llyfr llofnodion go arbennig – syniad a gafodd Eirlys Phillips i geisio gwaith a llofnodion beirdd a llenorion Cymru.
Erbyn ei drosglwyddo i’r côr, roedd wedi casglu bron i 90 o lofnodion prifeirdd a phrif lenorion, aelodau gwahanol dimau’r Talwrn a beirdd gwlad. Mae’r casgliad unigryw yn cynnwys pennill o’u dewis yn eu llawysgrifen eu hunain. Er mwyn i chi gael blas o’r gyfrol, mae cerddi yn llawysgrifen Twm Morys, T Llew Jones, Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen a Mererid Hopwood (i enwi dim ond pump) i’w gweld isod.
Y mae’r llyfr bellach wedi ei glorio’n daclus – ond nid yw’n waith gorffenedig, gan fod lle i fwy o lofnodion. Yng ngeiriau Eirlys Phillips, “Y bwriad yw cyflwyno gwaith cyfranwyr “Cerddi’r Beirdd” i’r cenedlaethau i ddod.”
Erbyn hyn y mae’r Côr wedi prynu’r Llyfr am £400 ac fe fydd yr aelodau yn mynd â fo o eisteddfod i eisteddfod gyda’r bwriad o gael rhagor o’n beirdd i ychwanegu cerdd at y casgliad gwych hwn.
CYFRANWYR
Twm Morys Donald Evans Robat Powell John Ogwen Adrian Geraint Bowen Cynan Jones W R P George John Glyn Jones John Roderick Rees Dafydd Morgan Lewis Lyn Jones Siôn Eirian Gwyn Thomas Eurig Salisbury Mererid Hopwood Aron Pritchard Dafydd Pritchard Tecwyn Owen Gwenallt Lloyd Ifan Arthur Wyn Jones, Llanfachreth Ieuan Parri Meirion Evans Mei Mac Arwel “Rocet” Jones Ithel Rowlands, Machynlleth Elwyn Breese Rheinallt Griffith, Rhydymain R J Rowlands Trefor Edwards, Y Parc T Gwynn Jones Ifor ap Glyn Andrea Parry Mair Edwards, Y Parc Tony Bianchi Vernon Jones Ieuan Wyn Aled Jones Williams W D Evans Eryl Jones Edward Henry Evans Aeronwy Thomas, merch Dylan Thomas |
Arwel Emlyn Jones Myrddin ap Dafydd Hilma Lloyd Edwards D Hugh Jones Hedd Bleddyn Ann Fychan Gareth Williams Huw Erith Alan Llwyd Dic Jones Gwilym Fychan Dylan Thomas, llawysgrifen Aeronwy Dafydd Williams Richard Llwyd Jones John Hywyn Penri Roberts Emrys Roberts Idris Reynolds Selwyn Griffith Elwyn Edwards Peter Hughes Griffiths Dafydd Wyn Jones John M Edwards Norman Closs Parry Robin Gwyndaf Emyr Davies Geraint Roberts Iwan Rhys Caryl Parry Jones Dic Jones Mererid Hopwood Ceri Wyn Jones Gerallt Lloyd Owen Hywel M Griffiths Karen Owen Tudur Dylan Jones D Cyril Jones Gwynn ap Gwilym J Ieuan Jones Iwan Bryn Williams Nesta Wyn Jones Dafydd Islwyn |