Arweinydd – Iwan Wyn Parry (ar y dde yn y llun)
Er i Iwan gael ei eni yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, cafodd ei fagu yn Y Groeslon, Sir Gaernarfon, ar aelwyd ble roedd cerddoriaeth yn cael lle amlwg.
Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion y Groeslon a Dyffryn Nantlle, ble y cafodd gyfle i lwyfannu a pherfformio. Tra’n astudio yn y coleg milfeddygol yng Nghaeredin cafodd wersi canu yn y coleg ac yn ogystal daeth dan ddylanwad Mr.Colin Jones, Rhosllannerchrugog. Yna, wedi ymgartrefu yn Nolgellau ymunodd a Chôr Godre’r Aran a derbyn hyfforddiant gan Mrs. Eirian Owen.
Bu’n cystadlu’n rheolaidd ar lwyfannau cenedlaethol ers 1983 a chipiodd y Rhuban Glas agored yn 26ain oed yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn, 1991. Yna, yn 1996 enillodd cystadleuaeth Canwr Ifanc y Flwyddyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Cafodd gyfle i ganu dramor ar sawl achlysur; fel aelod o Gôr Godre’r Aran ymwelodd ag Awstralia a Seland Newydd, yn ogystal perfformiodd yng nghymanfa fawr Gogledd America pan ymwelodd ag Utica, UDA. Hefyd, cafodd gyfle i roi datganiad yn Tröldhaugen, Bergen, cartref y cyfansoddwr, Grieg. Ac yntau yn llywydd Clwb Rygbi Dolgellau, roedd wrth ei fodd yn canu’r anthem genedlaethol ar sawl achlysur cyn gemau rhyngwladol ar y Cae Ras, Wrecsam a chanodd hefyd yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd , cyn y gêm yn erbyn yr Alban pan oedd y darlledwr Bill Maclaren yn ymddeol fel sylwebydd.
Fel unawdydd mae’n hoffi cyflwyno amrywiaeth eang o gerddoriaeth ar lwyfan cyngerdd, ond yn ogystal mae’n perfformio gweithfeydd oratorio yn rheolaidd, gan gynnwys “Christmas Oratorio”, Bach; “Judas Maccabaeus”, Handel; “Messiah”, Handel; “Y Greadigaeth”, Haydn ac “Elias”, Mendelssohn. Perfformiodd mewn cyflwyniad llwyfan o’r operâu “Nabucco”, Verdi a “Blodwen”, Joseph Parry.
Yn briod â Kerry, mae ganddynt ddau o blant, Aron ac Ania a braf yw gweld hwythau yn ogystal yn mwynhau cerddoriaeth ac yn cael pleser o lwyfannu fel unigolion ac mewn corau.
Cyfeilydd – Huw Davies (ar y chwith yn y llun)
Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion cyn symud ymlaen i’r Ysgol Uwchradd yn y dref honno. Wedi llwyddiant yn ei arholiadau lefel A aeth i Brifysgol Bangor i astudio cerddoriaeth. Ar ôl graddio, treuliodd y flwyddyn ganlynol yn dilyn cwrs Hyfforddiant Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi cymhwyso fel athro llwyddodd i gael swydd yn Ysgol Dyffryn Aman ac yno y bu am wyth mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n cyfeilio i Gôr Meibion y Mynydd Mawr. Bu hefyd yn aelod o Gwmni Theatr Maldwyn ac yn gyfeilydd i Aelwyd weithgar Penllys, swydd y mae’n parhau i’w chyflawni hyd heddiw.
Llwyddodd i ddychwelyd i fro ei febyd i fyw ac i weithio pan gafodd ei benodi’n Bennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Fel y gallwch ddychmygu, y mae cerddoriaeth yn mynd â thalp helaeth o’i amser hamdden. Rydym, fel Côr, yn werthfawrogol iawn o’i barodrwydd i deithio atom o’i gartref yn Llanerfyl i Ddolgellau bob nos Wener, wedi wythnos galed o waith. Mae ei ddawn fel cyfeilydd yn amlwg i bawb ond rydym hefyd yn ddiolchgar iddo am ei amynedd a’i hynawsedd!